Croeso i Dyma-Fi gallwch mewngofnodi neu creu cyfrif.
Yr ydym eisiau i chi fod yn fodlon gyda pob profiad o brynu eitemau gan Dyma Fi. Ond, os ydych angen dychwelyd eich nwyddau, gweler y telerau isod.
Gostyngiadau
Os oes gennych god gostyngiad mae angen i chi ei nodi yn y blwch perthnasol wrth i chi dalu am eich nwyddau. Dim ond un cynnig arbennig sydd yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer pob archeb.
Costau Cludo a Gwasanaethau Eraill
Os ydych yn dychwelyd nwyddau am eu bod yn wallus neu bod camgymeriad wedi ei wneud gennym ni, byddwn yn ad-dalu unrhyw gostau cludo y bu'n rhaid i chi dalu er mwyn dychwelyd yr eitem. Mewn unrhyw achos arall, chi fydd yn gyfrifol am gostau unrhyw wasanaeth arall a ddarperir i chi mewn perthynas a'r nwyddau.
Dychwelyd Eitemau
Cyn dychwelyd unrhyw nwyddau, cysylltwch gyda Dyma Fi naill ai drwy ffonio 02920 567430 neu e-bostio post@dyma-fi.co.uk. Nodwch yn glir y rhesymau dros eu dychwelyd, paciwch nhw’n ofalus, a dychwelwch y pecyn i’r cyfeiriad isod:
Dyma Fi Cyf,
26 Mayfield Avenue,
Parc Fictoria,
Caerdydd,
CF5 1AN
Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth postio wedi ei gofrestru.
Os ydych yn dychwelyd eitem sydd ddim yn ddifygiol, ni fydd Dyma Fi yn talu am y cludiant.
Nwyddau Diffygiol
Gellir dychwelyd unrhyw eitem o fewn 14 diwrnod o’i archebu os yw’r eitem hwnnw yn ddiffygiol. Ni fyddwn yn derbyn nwyddau a ddychwelwyd wedi eu hagor oni fyddent yn ddiffygiol. Byddwn yn falch o ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio os bydd y nwyddau yn diffygiol wedi ymchwiliad gan Dyma Fi. Os dychwelir nwyddau sydd yn ddifygiol, bydd Dyma Fi yn amnewid y cynnyrch . Mewn sefyllfaoedd ble nad yw’n bosib – byddwn yn ad-dalu pris llawn y nwyddau.
Ymwrthodiad
Mae gan Dyma Fi yr hawl i wneud newidiadau neu welliannau i unrhyw wybodaeth a gynhwysir o fewn tudalennau'r wefan, ar unrhyw adeg heb rybudd.